Yr hyn rydym yn ei wneud
Ein cenhadaeth
Mae ein gwaith wedi dechrau gyda’r dasg anferth o adfer Fforest Kinabatangan; mae’r ardal gychwynnol a nodwyd gan ein partneriaid yn cynnwys 2,600 hectar (sydd angen tua 20 miliwn o goed).
- Gwella bioamrywiaeth
- Datblygiadau ym maes y gwyddorau ailgoedwigo
- Cefnogi ffyrdd o fyw lleol
- Atafaelu carbon
Y daith hyd yn hyn
Ein heffaith
Caiff effaith Regrow Borneo ei theimlo drwy gadwraeth cynefinoedd, dylanwadu ar bolisïau, ymgysylltu â chymunedau a hyrwyddo arferion cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwyrddach.
Sut rydym yn gwneud hyn
Ein dull

Hectar iach
Adfer hectarau iach drwy blannu coed lleol o blanigfeydd cymunedol a chynnal eu twf am 3 blynedd.

Ecoleg
Monitro ac asesu’r newidiadau mewn poblogaethau planhigion ac anifeiliaid gyda thechnoleg fodern fel trapiau camera a dronau.

Cymunedau
Creu partneriaethau â sefydliadau lleol i arwain ymdrechion adfer wrth gynnig cyflogau teg a ffyrdd o fyw cynaliadwy.

Dal carbon
Bydd hectar iach ac aeddfed o fforest law yn storio hyd at 400 tunnell o garbon (sydd gyfwerth â 1400 tunnell o garbon deuocsid), gan ei gadw o’r atmosffêr
Y newid rydym am fod
Ein nodau
Mae ein nodau’n canolbwyntio ar liniaru effeithiau dirywiad fforestydd, gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo arferion cynaliadwy o ddefnyddio tir. Ein nod yw ceisio grymuso cymunedau lleol, diogelu rhywogaethau mewn perygl a chyfrannu at effeithiau byd-eang o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Trwy gamau gweithredu ar y cyd a thechnegau adfer arloesol, ein huchelgais yw adfywio’r ecosystemau hanfodol hyn er bydd natur a phobl.
“Nid yw Regrow Borneo’n ymwneud â phlannu coed yn unig;
mae’n ymwneud â phlannu gobaith”
“Nid yw Regrow Borneo’n ymwneud â phlannu coed yn unig; mae’n ymwneud â phlannu gobaith”
Gallwch chi wneud gwahaniaeth





Neges gan ein rhoddwyr
Yr unigolion arbennig sydd wedi cefnogi ein twf a’n taith!

“Mae wedi bod yn bleser darganfod Regrow Borneo – menter arbennig sydd wedi ymroi i adfer fforest law Borneo a gwrthdroi effeithiau trychinebus datgoedwigo. Gan weithredu ar gost hynod isel, maen nhw’n sicrhau’r effaith fwyaf o bob rhodd.”
Sarah a Paddy Wills
The Sarah and Patrick Wills Foundation