Camau gweithredu

Pam mae angen inni weithredu nawr

Mae’r map hwn yn rhoi cynrychiolaeth weledol fanwl o dueddiadau datgoedwigo yn rhanbarth Kinabatangan rhwng 1973 a 2014. Mae’r ardaloedd gwyrdd ar y map yn dangos y gorchudd fforest wreiddiol, sydd wedi diflannu’n raddol dros y blynyddoedd. Wrth i chi edrych ar yr amserlen, sylwch fod gwahanol ddefnydd tir yn cymryd dros yr ardaloedd gwyrdd hyn, gyda’r trawsnewid mwyaf sylweddol yn sgil ehangu planigfeydd olew coed palmwydd, sydd wedi’u dangos mewn lliw pinc. Mae’r map hefyd yn tynnu sylw at safle daearyddol Kinabatangan ar arfordir gogleddol Borneo, sydd wedi’i ddangos yn glir yn y gornel chwith uchaf, sy’n cynnig cyd-destun i’r newidiadau amgylcheddol ehangach sy’n digwydd yn yr ardal allweddol hon.

Ein dull

Mae Regrow Borneo yn cyfuno arbenigedd gwyddonol â gwybodaeth gymunedol i ailgoedwigo fforestydd trofannol ar dir isel yn rhanbarth Kinabatangan. Mae’r fforestydd hyn, gyda’u priddoedd amrywiol a’u llifogydd blynyddol, yn cefnogi amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a buddion pobl. Trwy fynd i’r afael â’r heriau yn yr amgylcheddau cymhleth hyn, ein nod yw datblygu mewnwelediadau gwyddonol newydd a dulliau arloesol o adfer fforestydd.

Pŵer cydweithio

Rydym yn cydweithio â chymunedau lleol, llywodraeth y wladwriaeth a sefydliadau academaidd ym Maleisia. Mae’r cysylltiadau dibynadwy hyn yn ein galluogi ni i fynd i’r afael ag ardaloedd ailgoedwigo heriol y mae llawer o raglenni plannu coed traddodiadol yn eu hosgoi.

Ein pwyslais

Yn hytrach na phlannu’r nifer fwyaf o goed, rydym yn plannu’r coed y mae eu hangen fwyaf, sydd o fudd i bobl, bywyd gwyllt a’r hinsawdd. Yn ystod Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau, ein nod yw datblygu model y gellir ei gopïo’n llwyddiannus mewn mannau eraill er mwyn ailgoedwigo mannau yr ystyrir eu bod yn “rhy anodd” yn y gorffennol.

Hectar iach

Yn hytrach na phlannu’r nifer fwyaf o goed, rydym yn plannu’r coed y mae eu hangen fwyaf, sydd o fudd i bobl, bywyd gwyllt a’r hinsawdd. Yn ystod Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau, ein nod yw datblygu model y gellir ei gopïo’n llwyddiannus mewn mannau eraill er mwyn ailgoedwigo mannau yr ystyrir eu bod yn “rhy anodd” yn y gorffennol.

Ecoleg

Mae gorlifdir afon Kinabatangan yn gartref i rywogaethau eiconig fel orangwtaniaid, eliffantod Borneo, a mwncïod trwynog. Rydym yn defnyddio 20 mlynedd o brofiad cadwraeth i fonitro newidiadau mewn poblogaethau planhigion ac anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys nodi rhywogaethau o blanhigion, olrhain anifeiliaid mawr gyda thrapiau camera ac arolygu anifeiliaid llai megis brogaod.

Cymunedau

Mae sefydliadau cymunedol lleol wrth wraidd ein prosesau, gan ein helpu i benderfynu ar ardaloedd a dulliau adfer. Maen nhw’n cynaeafu hadau, yn tyfu ac yn plannu coed ifanc ac yn monitro safleoedd ar ôl plannu. Mae Regrow Borneo yn cynnig cyflog byw am eu gwaith, gan gynnig incwm cynaliadwy amgen i amaethu olew coed palmwydd a chefnogi twristiaeth amgylcheddol. Rydym hefyd yn cynnal gwaith ymchwil academaidd i asesu effaith ein gwaith ailgoedwigo ar gymunedau lleol.

Atafaelu carbon

I fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, mae’n hanfodol lleihau allyriadau carbon. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd gael gwared ar allyriadau’r gorffennol. Mae fforestydd trofannol yn effeithiol iawn wrth ddal carbon deuocsid. Gall hectar aeddfed o fforest law Borneo storio hyd at 400 tunnell o garbon. Rydym yn mesur y carbon a gaiff ei storio yn ein hardaloedd sydd wedi’u hailgoedwigo er mwyn creu adroddiadau cywir o faint o garbon deuocsid y mae ein hymdrechion wedi’i dynnu o’r atmosffêr.

to top