Ein stori

Y dechrau

Dechreuodd Regrow Borneo o bartneriaeth gydweithredol hirsefydlog rhwng Canolfan Faes Danau Girang (DGFC), ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a chymunedau lleol sydd wedi ymrwymo i gadwraeth.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae DGFC wedi sefydlu rhaglen ymchwil gadarn ym maes cadwraeth, sydd wedi esblygu i gynnwys heriau ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol a gwyddorau’r ddaear.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae gwyddonwyr DGFC wedi magu perthynas gref gyda KOPEL, sef cwmni ecodwristiaeth cymunedol yn Batu Puteh. Mae KOPEL wedi adfer yn llwyddiannus sawl hectar o fforestydd yn Llyn Kaboi, Kaboi Stumping a Ladang Kinabatangan, gan gael profiad gwerthfawr mewn adfer fforestydd yn ardal Kinabatangan isaf.

Gwreiddiau gweledigaeth

Yn 2018, yn ystod pen-blwydd Canolfan Faes Danau Girang yn 10 oed, daeth y potensial ar gyfer prosiect adfer fforestydd moesegol yn ardal Kinabatangan i’r amlwg yn dilyn trafodaethau rhwng KOPEL ac academyddion o Brifysgol Caerdydd. Yn sgil hyn, lansiwyd prosiect peilot, Regrow Borneo, yn 2019. Y nod cychwynnol oedd  adfer pedwar safle: Llyn Kaboi, Kaboi Stumping, Ladang Kinabatangan a Chorstir Laab. Anogodd y prosiect, a ddatblygwyd ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd, staff a myfyrwyr i leihau eu holau troed carbon o deithio mewn awyren.

Yn ystod y cyfnod peilot rhwng 2019 a 2020, plannwyd y coed cyntaf yn Llyn Kaboi a Ladang Kinabatangan. Er gwaethaf heriau cychwynnol, gan gynnwys llifogydd a barodd am fis ac ysglyfaethu gan facacos a cheirw, dangosodd y coed wydnwch eithriadol. Erbyn mis Mai 2020, roedd nifer o’r coed wedi ailflaguro a dechrau ffynnu, a oedd yn profi bod modd adfer yn yr amodau heriol hyn.

Creu ein llwybr ein hunan

Ar ddiwedd 2020, daeth Regrow Borneo yn elusen annibynnol, ar wahân i Brifysgol Caerdydd. Gwnaeth y cyfnod hwn gyd-fynd â phandemig COVID-19, a effeithiodd yn ddifrifol ar ein sefydliadau partner oherwydd y collwyd ecodwristiaeth a theithiau maes academaidd. Cyhoeddwyd papur gwyntyllu yn The Conversation yn sgil yr heriau hyn, a oedd yn adlewyrchu’r anawsterau o sefydlu elusen newydd yn ystod cyfnod mor gythryblus.

Tyfu’n gryfach

Ers 2020, mae Regrow Borneo wedi parhau i dyfu, gan weithio gyda phartneriaid ariannu amrywiol a goresgyn heriau megis y pandemig a llifogydd gwael. Yn sgil ein hymdrechion, datblygwyd canopi fforest iach yn ein safleoedd adfer. Yn 2021, yn sgil rhodd hael iawn gan Paddy a Sarah Wills, cefnogwyd ein myfyriwr PhD Regrow Borneo cyntaf, Maz, a gwnaethom gyflogi cynorthwyydd ymchwil amser llawn.

Yn 2023, roeddem yn wynebu colled enbyd yr Athro Michael Bruford, mentor, ffrind, a hyrwyddwr cadwraeth fyd-eang. Chwaraeodd Mike ran ganolog yn Regrow Borneo trwy ei gefnogaeth ddiflino i Ganolfan Maes Danau Girang, ei ymchwil hirdymor yn Borneo, a’i ymrwymiad diwyro i gynaliadwyedd amgylcheddol. Gadawodd ei haelioni calon ac ysbryd cydweithredol farc annileadwy ar bob un ohonom. Er cof amdano, rydym wedi cysegru ardal 10-hectar o Werth Cadwraeth Uchel yn agos at Ganolfan Maes Danau Girang fel Ardal Gadwraeth Mike Bruford.

Bydd y gofod hwn yn gwasanaethu fel man cadwraeth ac ymchwil wyddonol, gydag ymgyrch barhaus i ariannu adfer ei hectar cyntaf. Mae ei etifeddiaeth yn parhau i’n hysbrydoli wrth i ni feithrin dyfodol coedwigoedd Borneo, gan sicrhau bod ei weledigaeth o gynaliadwyedd a gobaith yn parhau trwy bob coeden rydyn ni’n ei phlannu.

to top