
Sarah a Paddy Wills
The Sarah and Patrick Wills Foundation
“Mae wedi bod yn bleser darganfod Regrow Borneo – menter arbennig sydd wedi ymroi i adfer fforest law Borneo a gwrthdroi effeithiau trychinebus datgoedwigo.
Gan weithredu ar gost hynod isel, maen nhw’n sicrhau’r effaith fwyaf o bob rhodd. Nid yw eu hymdrechion yn ymwneud ag ailblannu coed yn unig; maen nhw’n sicrhau bod ecosystemau hanfodol yn dychwelyd, gyda ffawna y credwyd ei fod wedi’u colli – megis orangwtaniaid, eirth o Borneo ac eliffantod pigmi – bellach yn dechrau dychwelyd.
Mae’n bleser gennym gefnogi Regrow Borneo, gan wybod bod ein cyfraniadau’n cynorthwyo’n uniongyrchol y gwaith o ddiogelu bioamrywiaeth ac amddiffyn yr amgylchedd gwerthfawr hwn.
Rydym yn annog eraill i ymuno â’r achos hanfodol hwn.”

Martin Vogel
Prif Swyddog Gweithredol, KOPEL
“Mae Regrow Borneo yn hynod bwysig i KOPEL. Er mwyn rhoi syniad i chi o ba mor arbennig yw’r rhaglen, rydym wedi bod yn adfer cynefinoedd mewn fforestydd am fwy nag 20 mlynedd.
Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf inni gael y cyfle i gydweithio, yn hirdymor, gydag ymchwilwyr sydd â diddordeb yn y gwyddorau adfer ar sawl lefel. Mae hefyd yn unigryw bod rhoddwyr yr ymdrechion hyn yn edrych ar y gwaith mewn modd cyfannol, ac yn gweithio gyda ni tuag at nifer o ganlyniadau, megis atafaelu carbon, yn ogystal â chanlyniadau’n ymwneud â bioamrywiaeth, cynefinoedd a lles cymunedau.
Mae’n chwa o awyr iach fod y dull wedi dechrau’n fach, er mwyn deall y deinamig adfer mewn amgylcheddau hynod heriol a diraddedog – fel fan hyn yng nghorlifdir Kinabatangan. O ystyried yr enillion o ran y ddealltwriaeth (o’r wyddoniaeth), a’r effaith hynod gadarnhaol ar gynefinoedd fforest, rydym yn cymeradwyo’r ymdrechion ac yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r ymrwymiad i gydweithio gyda’n cydweithfa gymunedol KOPEL Bhd. Mawr obeithiwn y bydd y rhaglen yn parhau, hyd yn oed ar raddfa fach, am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Charlotte Hogg
Ymgynghorydd Ecolegol, Arcadis
Roedd fy mhrofiad gyda Regrow Borneo, yn ystod taith maes i Ganolfan Faes Danau Girang yn rhanbarth Sabah o Borneo, fel rhan o’m gradd MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ddim llai na thrawsnewidiol. Pan oeddwn yno, cawsom gyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at waith hanfodol Regrow Borneo drwy blannu coed ifanc ar hyd glannau afon Kinabatangan – gweithgarwch a dynnodd sylw at effaith go iawn eu hymdrechion ailgoedwigo.
Un o’r agweddau mwyaf bythgofiadwy o’r daith oedd cwrdd â’r arweinydd plannu coed o KOPEL, sef sefydliad cymunedol lleol sy’n cydweithio â Regrow Borneo. Gwnaeth ein harweinwr ein harwain drwy’r broses o blannu’r coed ifanc yn ogystal â rhannu cyd-destun ehangach eu hymdrechion. Aethant â ni i weld y coed ifanc a blannwyd mewn blynyddoedd blaenorol, gan ddangos inni sut roedd y coed ifanc yma wedi tyfu ac roeddent yn dechrau adfer y fforest a datblygu gwydnwch yn erbyn llifogydd. Roedd eu hangerdd am gadwraeth wir yn ysbrydoledig, a gwnaeth eu gwybodaeth ddofn o’r tir a’i heriau roi dealltwriaeth dda inni o effaith hirdymor ailgoedwigo.
Yn ystod ein hymweliad, cawsom gipolwg gwerthfawr hefyd ar rôl hanfodol prosiectau fel Regrow Borneo ar adfer ecosystemau, a sut maen nhw’n cydweithio â phartneriaid a sefydliadau lleol. Adeg benodol a oedd yn agoriad llygad i mi oedd dysgu am yr heriau a wynebir wrth weithio ger planhigfeydd olew coed palmwydd. Er enghraifft, cafodd safle a oedd wedi’i ailgoedwigo ei ddifetha gan berchnogion ystad a oedd yn credu ar gamgymeriad mai eu tir nhw ydoedd, sy’n dangos gwirionedd cymhleth gwaith cadwraeth mewn ardaloedd mor gystadleuol. Fodd bynnag, roedd yn galonogol gweld pa mor galed roedd staff Regrow Borneo a KOPEL wedi gweithio i ailblannu’r ardal hon eto a sicrhau ei bod yn cael ei diogelu am genedlaethau i ddod. Ar y cyfan, roedd y profiad hwn yn un goleuedig ac ysbrydoledig. Roedd yn anhygoel gweld yn uniongyrchol ymroddiad a dyfalbarhad Regrow Borneo a’u partneriaid, fel KOPEL, yn wyneb yr heriau a gyflwynir gan ddeinamig newidiol iawn ein byd naturiol. Mae eu gwaith wir yn gwneud gwahaniaeth, ac rwy’n hynod ddiolchgar o fod wedi bod yn rhan ohono.”