Ailgoedwigo er mwyn dal a storio carbon er budd yr amgylchfyd ac ecosystemau a chymunedau lleol

Mae Regrow Borneo yn dwyn arbenigedd gwyddonol ynghyd â’r cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sefydliadau ailgoedwigo cymunedol lleol yn y Kinabatangan   

Rydym yn ailblannu coedwigoedd gwerthfawr mewn iseldiroedd trofannol, lle fo newidiadau yn amodau'r pridd, llifogydd cyson a phresenoldeb amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a diddordebau dynol yn cynnig heriau yn ogystal â chyfleoedd. 

Drwy 'r weithio yn y lleoliadau heriol hyn, mae’r prosiect yn gobeithio ennill mewnwelediadau gwyddonol newydd arwyddocaol, yn ogystal â buddion ehangach, a fydd yn eu tro yn darparu modelau a dulliau newydd ar gyfer adfer coedwigoedd. Rydym yn ffodus i allu fanteisio ar gysylltiadau tymor hir a dibynadwy gyda chymunedau lleol, llywodraeth y wladwriaeth a’i hadrannau, a sefydliadau academaidd o fewn Malaysia. 

Mae'r bartneriaeth hon yn caniatáu i ni fynd i'r afael â rhai o'r ardaloedd mwyaf heriol i'w hailgoedwigo, ardaloedd y byddai nifer o raglenni coedwigo traddodiadol yn eu hosgoi. 

Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu model ailgoedwigo a fydd yn mynd i'r afael â llawer o agweddau ar yr un pryd. Mae’n dilyn felly nad plannu'r nifer fwyaf o goed yw ein nod o reidrwydd. Serch hynny mae ein gweledigaeth yn un uchelgeisiol. Yn ystod Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau, mae’r gwaith hwn yn amserol, a gobeithiwn y bydd ein model, ar ôl ei llawn ddatblygu, yn cael ei efelychu mewn llefydd eraill, gan helpu sicrhau y bydd ardaloedd a fyddai gynt wedi cael eu hanwybyddu fel rhai “rhy anodd” i’w hadfer, yn gallu cael eu hailgoedwigo yn llwyddiannus”. 

Hectar Iach

Pan roddwch rodd i Regrow Borneo, rydych yn buddsoddi mewn adfer coedwigoedd iach. Dydy hyn ddim mor syml â phlannu coed a gobeithio  y byddant yn goroesi. Heb gynnal a chadw, monitro, ac weithiau ailblannu, gall prosesau naturiol fel llifogydd neu ysglyfaethu (e.e. mae mwncïod a cheirw yn hoff o fwyta’n glasbrennau) effeithio ar ein gallu i gefnogi'r adferiad hwn. 

I ni, mae adfer hectar iach yn golygu plannu coed lleol o feithrinfa gymunedol a'u cynnal am 3 blynedd er mwyn caniatáu iddynt dyfu'n ddigon tal i oroesi. Yna byddwn yn monitro'r hectar coedwig honno gan ddefnyddio technegau arolygu modern (seiliedig ar drôn), a thraddodiadol. I gael mwy o wybodaeth am ein dynesiad, wele’r erthygl ganlynol yn  The Conversation 

Ecoleg

Mae gorlifdir yr Afon Kinabatangan yn gartref i rywogaethau pwysig ac eiconig, fel yr Orangwtan, eliffant pygmi, a mwnci proboscis.  Gan adeiladu ar 20 mlynedd o brofiad mewn gwaith cadwraeth yn yr ardal, byddwn yn monitro ac yn asesu'r newidiadau ym mhoblogaethau planhigion ac anifeiliaid drwy gydol y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu a  monitro plotiau botanegol lle byddwn yn nodi'r rhywogaethau planhigion a choed sy'n bresennol ym mhob ardal a’u niferoedd.  Bydd trapiau camera yn caniatáu inni gofnodi sut fo’n gwaith adfer yn effeithio presenoldeb anifeiliaid mawr, a bydd arolygon rheolaidd o anifeiliaid llai, fel brogaod, yn cael eu gan ein cydweithwyr yn DGFC 

Cymunedau

Rydym yn partneru â sefydliadau cymunedol lleol sy'n chwarae rhan allweddol wrth benderfynu pa ardaloedd y byddwn yn eu hadfer nesaf a sut i fynd ati. Maen nhw'n cyflenwi'r eginblanhigion o hadau a gynaeafwyd yn y goedwig, ac mae'r elusen yn sicrhau bod gweithwyr yn cael cyflog byw am eu gwaith, gan ddarparu ffynhonnell incwm cynaliadwy amgen i amaethyddiaeth palmwydd olew. Mae ein model gwaith hefyd yn cefnogi'r twristiaeth amgylcheddol gynyddol yn yr ardal. Rydym hefyd yn ymgymryd ag ymchwil academaidd i sefydlu effaith ein gwaith ailgoedwigo ar gymunedau lleol. 

Atafaelu Carbon

Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol.     Yn fyd-eang, mae lleihau ein hallyriadau carbon i sero net yn flaenoriaeth frys. Ond gyda lefelau carbon atmosfferig yn uwch nag erioed, rhaid inni fynd ymhellach - gan atafaelu nid yn unig ein hallyriadau cyfredol ond tynnu i lawr allyriadau'r gorffennol yn ogystal. 

Mae coedwigoedd trofannol yn hynod effeithlon am dynnu CO2 o'r atmosffer a'i storio fel pren neu yn y pridd. Bydd hectar iach, aeddfed o Goedwig Borneaidd yn storio hyd at 400 tunnell o garbon (sy'n cyfateb i 1400 tunnell o CO2). Mae carbon yn cael ei storio o fewn boncyffion, canghennau, dail a gwreiddiau’r coed. Pan fydd dail yn cwympo a choed yn marw, maen nhw hefyd yn ychwanegu carbon i'r pridd lle mae'n cael ei storio. Rydym yn mesur faint o garbon sy'n cael ei storio yn y coed a’r pridd  ar bob un o’n plotiau botanegol , sy’n caniatáu inni fesur yn union faint o garbon deuocsid y mae’r ardaloedd a blannwyd gennym yn eu tynnu o’r atmosffer.